Job 32

Araith Elihw

(Job 32:1—37:24)

1Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn.

2Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw. 3Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb. 4Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra roedden nhw'n siarad gyda Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e. 5Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân.

Ymateb cyntaf Elihw

6Yna dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn:

“Dyn ifanc dw i, a chi i gyd yn hen;
felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel
ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.
7Dywedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad;
rho gyfle i'r rhai sydd a phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’
8Ond Ysbryd Duw yn rhywun,
anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.
9Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth,
does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.
10Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i,
a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’
11Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,
ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,
wrth i chi drafod y pethau hyn.
12Ond mae'n gwbl amlwg i mi
fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,
a gwrthbrofi'r hyn mae wedi ei ddweud.
13A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –
Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’
14Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,
a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.
15Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;
does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.
16Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?
Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.
17Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt;
cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.
18Mae gen i gymaint i'w ddweud,
alla i ddim peidio dweud rhywbeth.
19Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;
fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.
20Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis.
Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.
21Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb,
na ffalsio drwy roi teitlau parchus i bobl;
22dw i ddim yn gwybod sut i seboni –
petawn i'n gwneud hynny,
byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!
Copyright information for CYM